Ei gwneud hi'n haws i bobl archwilio eich casgliadau digidol mewn un syllwr hyblyg

Un syllwr ffynhonnell agored ar gyfer delweddau, dogfennau, sain, fideo a chynnwys 3D. Yn cydymffurfio â safonau IIIF ac yn hawdd ei integreiddio â'ch gwefan bresennol.

Cefnogwyd Gan

Aelodau’r Grŵp Llywio

National Library of WalesBritish LibraryFalvey Library, Villanova UniversityTINDPrinceton UniversityUCLA LibraryUniversity of St AndrewsDigiratiMnemoscene

Prif Gyfranwyr

British Online ArchivesNational Library of ScotlandNotch8People's Collection WalesCogappVictoria & Albert MuseumRiksarkivetGeoff SchollStacey Redick

Sut Mae'n GweithioHawdd ei osod a'i reoli

Rhyngwyneb syml a greddfol sy’n galluogi defnyddwyr i archwilio delweddau, dogfennau, sain a fideo yn rhwydd. Gyda nodweddion hawdd eu defnyddio a dull syml o reoli cynnwys, cewch chi a’ch ymwelwyr brofiad hwylus o’r dechrau i’r diwedd.

Dogfennaeth

Prif nodweddion Pam dewis Universal Viewer?

Archwilio mwy

Dewch â delweddau, dogfennau, sain, fideo a chynnwys 3D ynghyd mewn un syllwr sy’n galluogi ymwelwyr i chwyddo, chwilio ac archwilio’r manylion

Gwneud casgliadau’n haws eu defnyddio

Wedi’i ddatblygu gyda hygyrchedd mewn golwg, gyda chefnogaeth ar gyfer bysellfyrddau a darllenwyr sgrin, a rhyngwyneb amlieithog ar gyfer cynulleidfaoedd ledled y byd.

Yn addas i’ch gwefan a’ch anghenion

Ychwanegwch Universal Viewer at eich gwefan a’i addasu i weddu i’ch casgliad. Gall eich tîm technegol ei addasu neu ychwanegu ato ymhellach yn ôl yr angen.

Agored, dibynadwy a gyda chefnogaeth

Syllwr ffynhonnell agored sy’n cael ei ddefnyddio gan sefydliadau diwylliannol ledled y byd, gydag opsiynau ar gyfer cynnwys gwarchodedig a chymuned weithgar wrth law i helpu.

Cymuned Mae ein hadnoddau cymunedol yn ei gwneud hi’n haws i chi ddysgu sut i ddefnyddio Universal Viewer yn effeithiol.

Dysgu mwy

Gall sefydliadau sy’n dechrau defnyddio Universal Viewer gael cymorth uniongyrchol drwy sianel Slack Universal Viewer wrth fynd ati i’w osod.

Mae ein cyfarfodydd cymunedol misol hefyd yn rhoi cyfle i sefydliadau ofyn cwestiynau, datrys problemau a dysgu o brofiadau defnyddwyr eraill Universal Viewer.